Cefnogi 400+ elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru i ddatblygu eu sgillau codi arian digidol. Aelodaeth am ddim o Localgiving, hyfforddiant a mentora un wrth un. I ymuno, defnyddiwch y cod hyrwydd WALES150
Mae Emma a Lauren yma i’ch cefnogi a’ch cynghori ar eich anghenion codi arian arlein. Os oes gennych ymholiad technegol neu ymholiad arall gallwch hefyd gysylltu â’n desg gymorth drwy ffonio 0300 111 2340.
O unigolion sy’n sicrhau nawdd i gyllido torfol ar gyfer prosiectau cymunedol, darparwn gasgliad cyflawn o dudalennau codi arian i’ch helpu i godi mwy arlein.
Gallwch chi gymryd rhan mewn ymgyrchoedd cyllid cyfatebol rheolaidd i roi hwb i werth eich rhoddion.
Rhoddion diogel 100%
Cymorth Rhodd Awtomatig
Adroddiadau trylwyr
Prosesir rhoddion yn ddiogel ac yn saff drwy ddarparwyr talu trwyddedig, gan drosglwyddo arian yn awtomatig i’ch cyfrif banc.
Rydyn ni’n prosesu’r Cymorth Rhodd ar eich rhan, hyd yn oed os nad yw’ch grŵp wedi’i gofrestru â’r Comisiwn Elusennau! Trosglwyddir Cymorth Rhodd yn awtomatig i’ch cyfrif.
Bydd adroddiadau manwl ar gyllid a marchnata yn rhoi’r data sydd ei angen arnoch i ennyn diddordeb cefnogwyr, meithrin perthynas hirdymor a sicrhau rhoddion rheolaidd.
A yw’ch mudiad yn gymwys?
Os yw’r 3 datganiad canlynol yn wir am eich grŵp chi, yna ewch ati i gofrestru da chi!
Rydym yn gweithio ar fentrau lleol / rhanbarthol ac nid ydym yn elusen genedlaethol
Mae gennym bwyllgor rheoli lleol / rhanbarthol a chyfrif banc yn y Deyrnas Unedig
Nid hybu crefydd na gwleidyddiaeth bleidiol yn unig yw ein hamcanion elusennol
Mae dros 5,000 o elusennau a grwpiau cymunedol lleol yn ymddiried ynom
"Mae aelodaeth Localgiving yn cynnig rhywle i elusennau lleol bach fel ninnau gynnal ymgyrchoedd codi arian cyffrous.
Mae’r fformat yn rhoi i ddarpar roddwyr yr ysgogiad i gefnogi ein helusen gan eu bod yn teimlo’n rhan o rywbeth cyffrous ac arbennig iawn."
– Taking Flight Theatre Co, Cardiff
Beth yw Localgiving?
Buddion ychwanegol
Cysylltu â ni:
Rydym yn darparu eiriolaeth ac yn gweithio i sicrhau cyllid trydydd parti i’n haelodau elwa ohono. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi, adnoddau ac ymgyrchoedd codi arian rheolaidd i’ch helpu i gyrraedd rhoddwyr newydd a chodi mwy o arian.
Localgiving yw’r corff aelodaeth arweiniol yn y Deyrnas Unedig i elusennau a grwpiau cymunedol lleol. Ein nod yw grymuso mudiadau ar lawr gwlad i godi arian arlein, cysylltu â chefnogwyr a chymryd rheolaeth dros eu dyfodol ariannol.